Y TINCER
Cyhoeddir yn fisol o Fedi i Fehefin gan Bwyllgor y Tincer; argreffir ychydig dros fil o gopïau gan y Lolfa, Tal-y-bont, ond mae'r nifer sy'n ei ddarllen lawer yn uwch.
Y dyddiad cau ar gyfer gyrru eich erthyglau i'r papur yw y dydd Gwener yn dilyn y dydd Iau cyntaf o'r mis. Cysylltwch gyda'r Tincer ar Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf 'Y Tincer' ym Medi 1977 a phlwyfi gogledd Ceredigion yw dalgylch y papur (Genau'r-glyn, Trefeurig, Tirymynach, Y Borth a phlwyf Melindwr). Dewiswyd yr enw gan mai dyma ardal y nofelydd Tom MacDonald (1900-1980). Bu'n nofelydd, newyddiadurwr a golygydd papur newydd yn Lloegr, China, Awstralia a De Affrica, gan ddychwelyd i Gymru ym 1965. Teitl un o'i nofelau yw 'Y Tincer Tlawd', ac mae enw'r papur yn awgrymu fod y Tincer yn casglu newyddion wrth fynd oddi amgylch yr ardal.
Gwelir ôl rifynnau ynghyd a mwy o hanes y papur yn http://www.trefeurig.org/tincer.php


