Y Gymraeg mewn BusnesMae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn gynyddol o fewn busnes. Mae’n ffordd o ychwanegu gwerth at eich busnes, cryfhau’r berthynas gyda’r gymuned leol, a dangos parch tuag at ddiwylliant Gymraeg. Yn 2009 bu i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gomisiynu arolwg yn gofyn am farn ynglyn a’r Gymraeg mewn marchnata. Cafwyd fod 76% o’r bobl a holwyd yn cytuno fod deunydd marchnata a hysbysebion dwyieithog yn bwysig, roedd 82% o’r farn fod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo, a 81% yn credu fod hyfforddi staff i ddysgu Cymraeg yn bwysig. Nid oes yn rhaid iddo fod yn ddrud na’n gymhleth i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn eich busnes. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnig help a chefnogaeth i fusnesau ac yn cynnig sawl cynllun a allai fod yn addas ar gyfer eich busnes. Cewch fwy o wybodaeth yngl?n a hyn ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg. www.byig-wlb.org.uk
Os ydych yn darparu gwasanaeth gyda elfennau dwyieithog neu sydd yn llwyr ddwyieithog mae Siarter Iaith Ceredigion yn fodd i chi godi ymwybyddiaeth o’ch gwasanaeth i’r cyhoedd.Gallwch hefyd gysylltu gyda ni am fwy o wybodaeth a chefnogaeth wrth geisio cynyddu eich defnydd o’r Gymraeg |
