Fel rhan o’n hymrwymiad ni i weithio gyda'r gymuned i greu Ceredigion ddwyieithog, rydym yn gweithio’n agos gyda phob math o bartneriaid, i ddiogelu dyfodol disglair i’r iaith Gymraeg.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweithio’n galed i wrando ar anghenion sefydliadau, busnesau, teuluoedd a grwpiau cymunedol yma yng Ngheredigion ac i’w cefnogi’n llawn, drwy ddatblygu a dosbarthu gwybodaeth, deunyddiau marchnata, yn ogystal â darparu offer cyfieithu o amgylch y Sir.
Fe fuom yn cydweithio gyda Chynllun Gweithredu Iaith Bro Teifi, cefnogi TWF ar brosiectau megis ‘Ma’ dy Gymraeg yn grêt’, datblygu prosiect y Pwerdai yn ogystal â chefnogi Pwerdy Trefeurig i gynnal eu gwefan gymunedol.
Yma yn Cered rydym yn gweithio’n barhaol i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i bobl Ceredigion. Os ydych chi’n aelod o grwp neu fudiad cymunedol yna bysai’n wych clywed gennych i drafod ffyrdd y gallwn ni fod o gymorth a bod yn rhan o’ch prosiect.