OFFER
|
|
Mae cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn hwyluso’r broses o ddarparu gwasanaeth dwyieithog a mae nifer o fudiadau ar gael sy’n cynnig cymorth. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnig gwasanaeth cyfieithu hyd at 75gair, am ddim i bawb. Mae Estyn Llaw yn cynnig gwasanaeth cynghori ar gyfer y trydydd sector, a grwpiau cymunedol, fyddai’n eich cyfeirio at gyfieithydd sydd yn addas i chi.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym ni hefyd wedi darparu offer cyfieithu ar fenthyg o amgylch y Sir. Felly os hoffech chi wybod mwy yngl?n a sut y gallwch chi fanteisio a gwneud y mwyaf o’ch cynnwys gan gynnig gwasanaeth dwyieithog yna cysylltwch a ni. |
Gallwch ddod o hyd i gyfieithydd drwy edrych ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu cysylltu gyda o un o'r cyfieithwyr isod. NODER Nid yw Cered yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros wasanaeth na ansawdd unrhyw gyfieithydd a nodir yma. Os ydych yn gyfieithydd lleol gallwch gysylltu gyda Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. er mwyn ychwanegu eich manylion i'r rhestr isod. |


Hefyd mae System Sain (PA) ar gael i chi fenthyg ar gyfer achlysur cyhoeddus. Cysylltwch â ni i fenthyg yr offer yn rhad ac am ddim.